Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2019
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5421
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf.. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Dechreuodd yr eitem am 16.53
Dechreuodd yr eitem am 17.47
NDM6944 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6945 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6943 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.57
NDM6946 - David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit – adroddiad dilynol ar barodrwydd porthladdoedd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.
2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit – Adrodd ar barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2018.
3. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit - Adrodd ar barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.39
NNDM6953 – Rebecca Evans (Gwŷr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar “Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin” gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 30 Ionawr 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.40
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 30 Ionawr 2019